MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £26,582 - £27,120
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26,582 - £27,120
Disgrifiad SwyddColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Technegydd ym maes adeiladu
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £26,582 - £27,120 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.
Mae gan Goleg Cambria swydd wag ar gyfer Technegydd i ymuno â'n tîm Adeiladu deinamig ar safle Glannau Dyfrdwy. Rydyn ni'n chwilio am ymgeiswyr gyda phrofiad ymarferol helaeth yn y diwydiant adeiladu, sy'n gallu cynnal gwiriadau o ddydd i ddydd ar gyfleusterau ac adnoddau, a sicrhau bod gwaith cadw tŷ yn cael ei wneud yn rheolaidd yn y gweithai. Mae'r swydd hon yn hanfodol i gynnal amgylchedd gwaith trefnus a diogel i'n staff a'n myfyrwyr.
Yn ogystal â'r cyfrifoldebau hyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi perthnasol ac yn darparu cymorth technegol yn ôl yr angen.
Rydyn ni'n chwilio am rywun brwdfrydig, gwydn ac yn llawn cymhelliant, gydag angerdd go iawn am addysg ac eisiau cael effaith gadarnhaol ar brofiad ein dysgwyr.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth mewn crefft adeiladu berthnasol
- Sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu uwch
- Safon dda o addysg ar lefel TGAU (neu gymwysterau cyfwerth).
- Profiad eang yn y diwydiant Adeiladu y gallwch ei ddangos.
- Profiad helaeth o gynnal cyfarpar gweithdy mawr gan gynnwys gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
- Mae profiad o weithio gyda dysgwyr neu brentisiaid yn dra dymunol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon ond rydyn ni hefyd yn annog dysgwyr Cymraeg sydd â'r gallu i gyrraedd lefel 3 o fewn cyfnod o 2 flynedd i wneud cais hefyd. Bydd angen i ddysgwyr Cymraeg fod ar Lefel 2 a gydag ymrwymiad i gyflawni rhuglder.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi'r datblygiad hwn trwy gynllun datblygiad proffesiynol wedi'i deilwra. Bydd asesiad sgiliau Iaith Gymraeg yn rhan o'r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'n Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os ydych yn cael cynnig swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai