MANYLION.
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: ISR - L5 £58,136.00 - L9 £64,174.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Johnston

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: ISR - L5 £58,136.00 - L9 £64,174.00

Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston

Dirprwy Bennaeth

I ddechrau ym mis Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl

ISR - L5-L9

Math o gontract: Llawnamser
Cyfnod y contract: Parhaol

Nifer ar y gofrestr: Tua 260 Cyfwerth ag amser llawn

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston am benodi dirprwy bennaeth addysgu deinamig ac ysbrydoledig. Rydym yn dymuno penodi arweinydd sy'n dalentog, yn arloesol, yn ymrwymedig ac yn ymarferydd rhagorol profedig sydd ag angerdd am addysg gynhwysol ac a fydd yn cefnogi ein Darpariaeth Canolfan Adnoddau Dysgu lwyddiannus.

Ar hyn o bryd mae Ysgol Gynradd Johnston mewn cydweithrediad ag ysgol gynradd fach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • arweinydd brwdfrydig, ysbrydoledig, arloesol gyda phrofiad blaenorol o arfer ragorol mewn addysgu a dysgu
  • deall pwysigrwydd creu cwricwlwm sy'n gyfoethog o ran gwybodaeth
  • meddu ar ddealltwriaeth ddofn o'r addysgeg i gefnogi datblygiad disgyblion
  • cefnogi ffocws craidd ar safonau a chefnogi disgyblion i ffynnu'n academaidd
  • dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf
  • ysbrydoli pob unigolyn i wneud ei orau
  • meddu ar ddealltwriaeth glir o ddatblygiadau allweddol cyfredol yn genedlaethol ac yn lleol
  • ymrwymedig i gynnal safonau uchel a gwelliant parhaus
  • cynnal, datblygu a meithrin partneriaethau rhwng disgyblion, rhieni/gofalwyr, staff, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach
  • gweithredu gweledigaeth a rennir ar gyfer datblygiad parhaus yr ysgol gynradd lwyddiannus hon
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Johnston yn chwilio am ddirprwy bennaeth sy'n:
  • unigolyn caredig ac yn dod i'r ysgol gyda gwên
  • mwynhau addysgu gwersi cyffrous a gwneud dysgu'n hwyl.
  • cefnogi ein gweithgareddau chwaraeon
  • gweithio'n dda gyda'n holl athrawon
Mae'r ysgol yn cynnig:
  • plant hapus, llawn cymhelliant, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu
  • tîm sefydledig, ymroddedig a thalentog o staff
  • llywodraethwyr a rhieni cefnogol ac ymroddedig
  • amgylchedd modern, llawn adnoddau i bawb ddysgu gyda'i gilydd
  • cyfleusterau dysgu awyr agored rhagorol
Os oes gennych ddiddordeb ymweld â'r ysgol neu os hoffech drafod y swydd, cysylltwch âr pennaeth ar 01437 8902080

Dyddiad cau: Dydd Llun 23 Chwefror 2026

Llunio'r rhestr fer: Dydd Iau 26 Chwefror 2026

Diwrnod cyfweld 1: Dydd Iau 12 Mawrth 2026

Diwrnod cyfweld 2: Dydd Gwener 13 Mawrth 2026

Bydd yr holl ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu harsylwi yn addysgu cyn y cyfweliad yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 2 Mawrth 2026.

Sylwch y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod ar ddiwedd diwrnod cyntaf y cyfweld a fyddant yn cael eu gwahodd i'r ail ddiwrnod cyfweld.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaeth Plant ac Ysgolion Sir Benfro. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn a byddant yn cymryd camau i ddiogelu llesiant plant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.