MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £60,188.32 - £63,477.80 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Maes Rhaglen - Peirianneg a Adeiladwaith

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £60,188.32 - £63,477.80 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Gwybodaeth Ychwanegol / Pwrpas y Swydd

Yn safle CaMDA Dolgellau a safle'r Hafan Pwllheli, byddwch yn arwain y gwaith o gyflwyno cwricwlwm dwyieithog o ansawdd uchel mewn Adeiladwaith a Pheirianneg sy'n cwmpasu pob llwybr-gan gynnwys darpariaeth llawn-amser, darpariaeth rhan-amser, prentisiaethau, Addysg Uwch a'r cwricwlwm 14-16. Wedi'ch lleoli yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, byddwch yn goruchwylio'r rheolaeth weithredol a chwricwlwm ar draws sectorau arbenigol. Mae pob disgyblaeth yn elwa o fannau ymarferol pwrpasol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi addysgu arbenigol a dysgu ymarferol, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth.

Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn ysbrydoli ac yn arwain tîm ymroddedig o Ddarlithwyr, Aseswyr a Thechnegwyr i ddarparu addysgu deniadol, cynhwysol a dwyieithog sy'n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial llawn. Wedi'ch gwreiddio'n gadarn yn ein gwerthoedd o gydraddoldeb, gonestrwydd, ymddiriedaeth, tegwch ac uchelgais, byddwch yn meithrin diwylliant o gydweithio a gwelliant parhaus, gan sicrhau bod eich tîm yn cael eu cefnogi, eu herio a'u hysgogi i gynnal y safonau uchaf mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

Gan adeiladu ar sylfaen gref cyflawniadau'r gorffennol, byddwch yn arwain cynllunio a datblygu'r cwricwlwm i sicrhau bod pob rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol, yn berthnasol i'r diwydiant ac wedi'i theilwra i anghenion unigryw pob llwybr-gyda llygad craff ar gynaliadwyedd ariannol i sicrhau llwyddiant hirdymor.

Bydd rheoli dangosyddion perfformiad allweddol fel presenoldeb, cadw myfyrwyr a chyflawniad yn ganolog i'ch rôl. Byddwch yn gwneud penderfyniadau allweddol, sy'n seiliedig ar ddata, i wella profiad y dysgwr yn barhaus a meithrin llwyddiant. Ochr yn ochr ag arweinyddiaeth y cwricwlwm, byddwch yn goruchwylio prosesau sicrhau ansawdd hanfodol-gan gynnwys gwirio mewnol, amserlennu a chynllunio asesiadau-gan weithio'n agos gyda thimau cymorth i sicrhau bod pob dysgwr yn derbyn yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth adeiladu partneriaethau cryf rhwng cyflogwyr a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cyd-fynd â gofynion esblygol y sector ac i ehangu cyfleoedd i ddysgwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnal y safonau uchaf o ran diogelu ac ansawdd, gan ymgorffori'r ymddiriedaeth a'r tegwch sy'n sail i ethos ein Coleg.

Mae hwn yn gyfle unigryw i ddod â'ch sgiliau arweinyddiaeth, arbenigedd cwricwlwm ac angerdd dros addysg ddwyieithog i adran sy'n edrych ymlaen, wedi'i gwella gan gyfleusterau rhagorol a gweledigaeth glir ar gyfer twf. Bydd eich cyfraniadau nid yn unig yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes ar y gweill ond byddant hefyd yn llunio llwyddiant staff a dysgwyr yn y dyfodol ar draws pob llwybr Peirianneg ac Adeiladu.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/123/26

Cyflog
£60,188.32 - £63,477.80 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
  • 37 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 wythnos y flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
13 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)