MANYLION.
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 £34,332.00 – £36,645.00 (pro-rata CALl)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyfieithydd Cymraeg

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: Graddfa 6 £34,332.00 – £36,645.00 (pro-rata CALl)

Cyfieithydd Cymraeg
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i ddatblygu amgylchedd gwirioneddol ddwyieithog, ac rydym yn chwilio am rywun sy'n rhannu'r weledigaeth honno i ymuno â'n Tîm y Gymraeg. Wrth i ni barhau i gryfhau ein gwaith o amgylch Safonau'r Gymraeg a chyfrannu at nodau Cymraeg 2050, rydym yn cynyddu ein capasiti cyfrwng Cymraeg ac yn buddsoddi mewn pobl a all helpu i wneud y Gymraeg yn rhan hyderus, bob dydd o fywyd coleg.

Nawr, rydym yn chwilio am Gyfieithydd Cymraeg medrus i ymuno â ni. Dyma gyfle i chwarae rhan ystyrlon yn y ffordd y defnyddir y Gymraeg ar draws y sefydliad, gan gefnogi staff, dysgwyr a'r gymuned ehangach i brofi coleg gwirioneddol ddwyieithog.

GwybodaethBellach:

Maeangeni staffa gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymrydagunrhyw ddyletswyddaurhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir ygall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i'w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu'r newidiadau hynny sy'n gymesur â'r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio'r Coleg, byddwn yn defnyddio'r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a'r Meini Prawf Dymunol os yw hynny'n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny'n berthnasol). Yn yr adran 'Gwybodaeth Bellach', dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni'r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau'r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â

people@cymoedd.ac. uk