MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
Mae'r corff llywodraethu yn dymuno penodi athro addysg gorfforol i'r merched dros dro dros gyfnod mamolaeth i ymuno â'n hadran ymroddedig a gweithgar o fis Ebrill 2026 tan fis Ebrill 2027.Yn dilyn ail ymweliad llwyddiannus gan Estyn â ni yn ystod hydref 2021, rydym yn chwilio am athro arloesol a chreadigol sydd wedi cymhwyso'n llawn, sydd â gwybodaeth ardderchog am y pwnc, ac a all weithio'n effeithiol yn ein hysgol.
Mae'n bleser gennym rannu'r datganiadau cadarnhaol o'n harolygiad diweddar gan Estyn a chryfhau ein tîm. Dywedodd Estyn: "Mae'r ysgol wedi mireinio a chryfhau ei darpariaeth llesiant, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad, agweddau at ddysgu, a phresenoldeb. Mae hyn yn ei dro wedi atgyfnerthu disgwyliadau uchel yr ysgol o ran ymddygiad a phresenoldeb."
Dymunwn atgyfnerthu canfyddiadau'r adroddiad hwn ac rydym yn chwilio am athro cymwys a chanddi ddisgwyliadau uchel a fydd yn ein cefnogi i barhau ân taith i wella.
Rydym hefyd yn falch o'r ffaith bod "disgyblion yn datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am y pwnc yn dda yn y rhan fwyaf o wersi."
Rydym yn gweithio'n galed i helpu i feithrin disgyblion gofalgar, meddylgar a brwdfrydig sy'n falch ohonynt eu hunain a'r gymuned y maent yn byw ynddi. Rydym mor falch bod Estyn wedi cydnabod hyn yn ei adroddiad, gan wneud y sylw penodol: "r ymdeimlad o gymuned agos a chefnogol ac ethos tîm yn agweddau cryf ar fywyd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau." Mae hyn i gyd o ganlyniad i waith caled anhygoel ein disgyblion, ein staff a theulu ehangach yr ysgol.
Lleolir Aberdaugleddau ar arfordir prydferth Sir Benfro mewn ardal lle mae tai yn rhad ac ansawdd bywyd heb ei ail. Rydym yn ysgol i blant 11 i 16 oed a chanddi dros 1,090 o ddisgyblion ar y gofrestr, a bydd y niferoedd hyn yn parhau i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgol yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn a bydd yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant gan gydnabod bod gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn. Cefnogir hyn gan ethos cyffredinol yr ysgol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.