MANYLION.
  • Lleoliad: Cross College,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £15.97 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Arholiadau (achlysurol sy'n cael eu talu fesul awr)

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £15.97 yr awr

Goruchwyliwr Arholiadau (achlysurol sy'n cael eu talu fesul awr)
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Fel Goruchwyliwr Arholiadau, byddwch yn gweithio i sicrhau bod arholiadau'n cael eu cynnal yn unol â'r rheoliadau er mwyn: sicrhau bod gan bob ymgeisydd gyfle cyfartal i ddangos eu galluoedd a sicrhau diogelwch y deunyddiau arholiad cyn, yn ystod ac ar ôl yr arholiad. Byddwch yn gweithio i atal camymddwyn posibl gan ymgeiswyr ac atal methiannau gweinyddol posibl. Nid oes angen profiad o oruchwylio gan y bydd hyfforddiant ar y rôl a dyletswyddau goruchwyliwr yn cael ei ddarparu, bydd hyn yn cynnwys goruchwylio arholiadau ar y sgrin.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i'w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu'r newidiadau hynny sy'n gymesur â'r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio'r Coleg, byddwn yn defnyddio'r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a'r Meini Prawf Dymunol os yw hynny'n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny'n berthnasol). Yn yr adran 'Gwybodaeth Bellach', dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni'r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau'r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk