MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £32,304 - £49,934
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 24 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg Drydanol ac Electronig CC/2986

Coleg Cambria

Cyflog: £32,304 - £49,934

Disgrifiad Swydd

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Peirianneg Drydanol ac Electronig

Lleoliad: Ffordd y Bers

Math o Gontract: Parhaol, Rhan Amser (22.2 oriau)

Cyflog: £32,304 - £49,934 Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Raddfa Dâl Uwch.

Mae Coleg Cambria yn gyffrous i fod yn recriwtio Darlithydd Peirianneg Drydanol ac Electronig i gyflwyno ein cyrsiau Addysg Uwch ar safle Ffordd y Bers.

I gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, dylai fod gennych chi brofiad a chymhwysedd y gallwch eu profi mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig a chymhwyster Lefel 5 o leiaf. Rydyn ni'n chwilio am unigolion sy'n gallu dangos empathi a dealltwriaeth am ystod o anghenion dysgu yn ogystal â dangos gwytnwch, hyblygrwydd, amynedd a synnwyr digrifwch.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi gyflwyno gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i'n myfyrwyr. Yn ddelfrydol bydd gennych chi brofiad blaenorol neu brofiad personol helaeth o gynnig cymorth i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch chi'n dangos y gallu i adeiladu perthnasau gwaith da gyda dysgwyr a staff a'r gallu i reoli grwpiau o ddysgwyr. Mae angen dangos dull cadarnhaol o ymateb i ymddygiadau heriol.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Yn hunan-ysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun
  • Gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn ni'n cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Dull Gweithio Hyblyg - hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith i gefnogi a gwella llesiant gweithwyr

Gwyliau Hael - 59 gan gynnwys gŵyl y banc a'r cyfnod o gau dros y Nadolig (tua 10 diwrnod)

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Ardderchog / Pensiwn Athrawon

Defnyddio hwb buddion cambria - mae hwn yn cynnwys arbedion cludiant, siopa, bwyta allan, iechyd a harddwch. Yn ogystal â chynllun beicio i'r gwaith

Mynediad at ystod eang o raglenni E-ddysgu a Datblygiad Proffesiynol - o dan y Cynllun Datblygu Cyflogwr, mae staff yn gymwys am ostyngiad ar unrhyw gwrs gwerth hyd at £195.

Aelodaeth ratach i ystafelloedd ffitrwydd

Cyfleusterau Chwaraeon a Ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Triniaethau Harddwch a Thrin Gwallt Rhatach

Caffi a bwyty ar y safle

Darpariaeth Meithrinfa ar safle Glannau Dyfrdwy

Rhaglen Gymorth i Weithwyr yn ogystal â chymorthyddion cyntaf iechyd meddwl ar bob safle

Gwobrau Hir-wasanaeth