MANYLION
  • Lleoliad: Ial,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,596 - £51,932
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Sgiliau Cymraeg CC/3020

Coleg Cambria

Cyflog: £33,596 - £51,932

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Darlithydd Sgiliau Cymraeg (Llawn amser, Parhaol)

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Sgiliau Cymraeg i gyflwyno rhaglenni Cymraeg deniadol i ddysgwyr ar draws ein holl safleoedd ac yn y gymuned. Mae'r rôl ddeinamig hon yn cynnwys darparu profiadau dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein ar bob lefel.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar drwydded yrru neu ddangos y gallu i deithio i wahanol leoliadau o fewn gogledd ddwyrain Cymru.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - Ionawr 7fed 2026

Cynhelir cyfweliadau - Ionawr 13eg 2026

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig