MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £25,402 - 26,804 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £25,402 - 26,804 y flwyddyn
Technegydd CeffylauLlawn Amser (37 awr yr wythnos) a Pharhaol
Graddfa Gyflog 3: £25,402 - 26,804 y flwyddyn
Ydych chi'n angerddol am geffylau ac yn barod i ymgymryd â rôl ddeinamig lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath? Ymunwch â'n tîm deinamig yng Ngholeg Penybont, lle byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein rhaglenni hyfforddi.
Pwrpas y Swydd : Cyflawni dyletswyddau cyffredinol ar yr iard a pharatoi offer ymarferol ar gyfer defnydd ar yr iard ac mewn darlithoedd. Byddwch chi'n cynorthwyo gyda dyletswyddau cyffredinol ar yr iard geffylau gan gynnwys carthu, bwydo a dyfrio stoc, tocio ac ysgubo a glendid cyffredinol yr iard. Byddwch chi hefyd yn cynorthwyo darlithwyr yn ystod sesiynau ymarferol.
Bydd gennych chi brofiad a gwybodaeth ragorol o weithio mewn amgylchedd iard geffylau, yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau a Chymhwyster Cam 2 Cymdeithas Ceffylau Prydain neu'n barod i ymgymryd ȃ chymhwyster hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Cyfweliadau i'w gynnal: 14 Ionawr 2026
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.