MANYLION
  • Lleoliad: Llangewydd Junior,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £23,721-£24,518 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Llanw - Ysgol Iau Llangewydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £23,721-£24,518 y flwyddyn

Goruchwyliwr Llanw - Ysgol Iau Llangewydd
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Dros dro – blwyddyn

Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 343 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng saith ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 ddosbarth ADY.

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi goruchwyliwr llanw brwdfrydig, gofalgar a chydwybodol i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu parhad dysgu i ddisgyblion drwy ddarparu gwersi wedi'u paratoi ymlaen llaw ar draws yr ysgol.

Dylai hefyd fod yn:

- Gallu gweithio mewn partneriaeth agos â staff addysgu a chymorth.

- Cynnal amgylchedd yr ystafell ddosbarth mewn modd trefnus a phwrpasol.

- Dilyn polisi ymddygiad yr ysgol.

- Meddu ar wybodaeth dda am arfer cynradd er mwyn cyfrannu at werthuso dysgu.

- Dealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol a hyrwyddo cynhwysiant.

- Rhoi adborth i athrawon ar gyflawniad, cynnydd a heriau disgyblion.

- Bod yn hyblyg iawn a gallu gweithio ar eu menter eu hunain.

- Dangos sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych.

- Ymrwymedig i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a gwella'r ysgol.

- Gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd ehangach yr ysgol.

- Yn barod i ymgymryd â dyletswyddau amser egwyl.

- Byddwch wedi cymhwyso i o leiaf NVQ Lefel 4 neu gyfwerth ac yn meddu ar brofiad da o weithio gyda phlant mewn amgylchedd ysgol.

Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Ionawr 2026

Arsylwadau Gwers/Grŵp: Wythnos yn dechrau 19 Ionawr 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 20 Ionawr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person