MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £5,777 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £5,777 y flwyddyn

Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Disgrifiad swydd
10 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ceisio penodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 11.30 a 13.30, dydd Llun - dydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig. 

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog perthnasoedd cadarnhaol a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais.

Dyddiad Dechrau ar gyfer y Swydd: 05.01.2026

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Rhagfyr 2025   

Dyddiad y Cyfweliad: 05 Ionawr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person