MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Gradd 4 - £25,583 x 64.10%
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 4 - £25,583 x 64.10%
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ001960 Dyddiad postio 21/11/2025 Dyddiad cau ceisiadau 04/12/2025 Cyflog Gradd 4 - £25,583 x 64.10% Oriau gwaith 27 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil TA L2_CY.pdf
Dros dro Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 2) YGGG Llantrisant
Disgrifiad Swydd
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG LLANTRISANT
Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pontyclun. CF72 8TL
Rhif Ffon: 01443 237837
Dros dro - Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 2)
Dosbarth Meithrin a Chamau Cynnydd 1, 2 a 3
27 awr yr wythnos - yn ystod tymhorau'r ysgol yn unig - tan 31.03.26 yn y lle cyntaf
Cyflog - Gradd 4 - £ x 64.10% - yn angen cyn gynted ag y bo modd
Ysgol Gymraeg ei chyfrwng sydd wedi ei lleoli yng nghanol pentref Meisgyn ydy Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. Ysgol lwyddiannus sy'n meddu ar safonau cyrhaeddiad a disgwyliadau uchel iawn yw hi. Ar hyn o bryd mae 205 o ddisgyblion yn yr ysgol. Mae'r Bwrdd Llywodraethu am benodi'r aelod o staff cynorthwyol i ddechrau yn syth.
Ydych chi'n berson yn angerddol am gefnogi plant ifanc yn eu camau cyntaf o ddysgu? Ydych chi'n chwilio am rôl lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn bob dydd? Os felly, rydym am glywed gennych.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i ymuno â'n tîm gofalgar a chreadigol yn y dosbarth Meithrin ac i weithio ar draws y Camau Cynnydd. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr âr athrawon dosbarth i ddarparu amgylchedd dysgu cyfoethog, cefnogol ac ysbrydoledig i blant ifanc wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol.
Beth rydym yn chwilio amdano:
- Brwdfrydedd dros addysg a datblygiad plant
- Egni a pharodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a chreadigol
- Hyblygrwydd i weithio mewn amgylchedd deinamig lle mae pob diwrnod yn wahanol
- Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm
- Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg
- Amgylchedd ysgol gynnes a chroesawgar
- Cefnogaeth barhaus a chyfleoedd datblygu proffesiynol
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ifanc
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.