MANYLION
  • Lleoliad: Cross College,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £29,106.00 - £35,244.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Anogwr Bugeiliol

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £29,106.00 - £35,244.00

Anogwr Bugeiliol
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Fel Anogwr Bugeiliol, byddwch yn cefnogi dysgwyr i gyflawni eu nodau, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi ar gyfer cam nesaf addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a bod cyrchfannau o ansawdd uchel yn cael eu cyrchu. Byddwch yn mynd i'r afael yn effeithiol â phroblemau a phryderon dysgwyr, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â phresenoldeb, prydlondeb, cymhelliant ac agwedd at ddysgu, er mwyn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a gofalgar. Disgwylir i chi gyflwyno sesiynau grŵp yn ogystal â sesiynau 1-1 fel rhan o'r rôl hon.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk