MANYLION
- Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
- Testun: Athro
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £27,491 - £42,333
- Iaith: Saesneg
This job application date has now expired.
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 Dros Dro - Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy
Rhondda Cynon Taf
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 Dros Dro (Anghenion Dysgu Cymhleth) wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy
Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans AAA
Dyddiad Dechrau: cyn gynted â phosibl, hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2023
Mae Gwasanaethau Cynhwysiant a Mynediad Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cymorth Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymhleth cyn gynted â phosibl.
Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 10 disgybl o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 a bydd yn cael ei staffio gan athro ac un Cynorthwyydd Cynnal Dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffoniwch 01443 744333.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 27 Mehefin 2022.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.