MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,596 - £51,932
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Gofal Plant CC/3008

Coleg Cambria

Cyflog: £33,596 - £51,932

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Gofal Plant

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Rhan-amser (22.2 awr yr wythnos), Parhaol

Cyflog Pro Rata: £20,157.60 - £31,159.20 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch)

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflwyno ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol o lefel 2 i lefel 3.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a meddu ar gymwysterau addysgu perthnasol. Mae'r rôl hefyd yn gofyn am sgiliau Cymraeg, a gellir darparu hyfforddiant i gefnogi'r gofyniad hwn.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi ddarparu dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i'n dysgwyr. Hefyd byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles myfyrwyr bob amser.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
  • Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
  • Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i'w harfer
  • Sgiliau Llythrennedd Digidol Da
  • Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu

Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon, fodd bynnag, anogir dysgwyr Cymraeg* sydd â'r gallu i gyrraedd lefel 3/4 o fewn cyfnod o 18 mis i 2 flynedd i wneud cais hefyd. Bydd angen i ddysgwyr Cymraeg fod ar Lefel 2 a dangos ymrwymiad i gyflawni rhuglder. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi'r datblygiad hwn trwy gynllun datblygu proffesiynol wedi'i deilwra. Bydd asesiad sgiliau Iaith Gymraeg yn rhan o'r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig