MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £10,218 - £10,562 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cwnselydd Ysgol (Tymor Penodol)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £10,218 - £10,562 y flwyddyn
Cwnselydd Ysgol (Tymor Penodol)Disgrifiad swydd
14 awr yr wythnos
Amser Tymor
Gweithio dydd Llun a dydd Mawrth
Tymor Penodol hyd at 31 Mawrth 2026
Rydym yn chwilio am gwnselydd cymwys i weithio gyda phlant a phobl ifanc yn lleoliadau ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd angen gwybodaeth fanwl am ddulliau seiliedig ar dystiolaeth ar y cwnselydd er mwyn gwella lles emosiynol plant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymhelliant i wella canlyniadau cynaliadwy i blant a phobl ifanc sy'n wynebu anawsterau lluosog a chymhleth.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloesi a datblygu eich sgiliau mewn arfer seiliedig ar dystiolaeth gyda phlant a theuluoedd. Os ydych yn cael eich denu gan y gwaith hwn ac yn gallu bodloni gofynion manyleb y person edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Megan Apsee, Tîm Ymgysylltu ag Addysg, Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc ar 01656 642407.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person