MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Ffederasiwn Beca a Bro Brynach

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2551

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o:

L11 - £67,531

Cyflog i:

L17 - £78,116

Oriau Contract:

Llawn Amser

Dewch i ymuno â'n tîm

Ai chi yw ein Pennaeth nesaf?

Lleolir y ddwy ysgol wledig yma mewn ardal hyfryd Sir Gâr ar y ffin â Sir Benfro. Mae'r ddwy ysgol newydd eu ffedereiddio a chanddynt weledigaeth glir ac ethos cymunedol grêf.

Fel llywodraethwyr rydym yn chwilio am Bennaeth ysbrydoledig ac ymroddedig i arwain tîm o Athrawon a staff ymrwymedig a brwdfrydig. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â gweledigaeth i adeiladu a datblygu ymhellach y Ffederasiwn gan gynnig profiadau anhygoel i ddisgyblion a staff.

Rydym yn chwilio am:
  • Eich gweledigaeth strategol i adeiladu ar gryfderau presennol y ddwy ysgol a manteisio'n llawn ar ein statws ffedereiddio newydd;
  • Eich gallu i osod a chynnal disgwyliadau uchel o ran cynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, tra'n sicrhau bod lles staff a disgyblion wrth galon pob cynllunio;
  • Eich gallu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd cymuned yr ysgol gyfan gyda'r hyder i osod a gweithio tuag at nodau uchelgeisiol, gan ymestyn ein galluoedd;
  • Eich brwdfrydedd i geisio a chreu cyfleoedd newydd i'n disgyblion, o fewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth, gan dynnu ar eich profiad, arbenigedd, a sgiliau eich hun i ddatblygu arlwy cyfoethog ac eang yn unol ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru;
  • Eich gweledigaeth gref a chynhwysol a'ch ymrwymiad i Gymreictod, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig, yn unol ag ethos presennol y ddwy ysgol a'r gymuned leol;
  • Eich uniondeb, creadigrwydd, gwytnwch, a chynhesrwydd fel athro, arweinydd, mentor, aelod tîm, a rhan o'n cymuned.

Gall ein hysgolion gynnig:
  • Cymuned gynnes, groesawgar a chynhwysol sy'n poeni'n fawr am lwyddiant a lles ein plant a'n staff, a dyfodol ein hysgolion;
  • Tîm clos o staff sy'n ymroddedig, yn weithgar, yn ofalgar ac yn ymroddedig i ddatblygiad parhaus;
  • Disgyblion sydd â gwir ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth Gymreig, sy'n greadigol, yn garedig, yn hapus ac yn frwdfrydig am ddysgu;
  • Rhieni a gofalwyr sy'n gefnogol ac yn cymryd rhan ac yn ymwneud â dysgu eu plant;
  • Corff Llywodraethol sydd wedi ymrwymo i welliant ac sy'n gallu gweithio'n agos gyda'r ysgolion, staff, a chi fel y pennaeth i sicrhau bod pob disgybl a staff yn cael y cymorth sydd ei angen i gyflawni eu potensial.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu swydd Pennaeth gyntaf feddu ar y CPCP.

Mae Ffederasiwn Ysgolion Bro Brynach a Beca wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.

BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch Adam Bowen, Cadeirydd y Llywodraethwyr, ar adam.bowen@brobrynach.ysgolccc.cymru

Dyddiad Cau: Canol Dydd ar Ddydd Gwener, 28 Tachwedd 2025

Rhestr Fer: Dydd Llun, 1 Rhagfyr 2025

Cyfweliadau: Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2025

Disgrifiad Swydd:

25-11-17 - Pecyn Penodi Pennaeth - Bro Brynach a Beca.pdf - 1318KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

10 Rhagfyr 2025

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 28/11/2025, 12:00

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.