MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Athrawon Graddfa gyflog ynghyd â'r Lwfans AAA (£2,838)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Dosbarth Cymorth Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anghenion Dysgu Cymhleth)
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Athrawon Graddfa gyflog ynghyd â'r Lwfans AAA (£2,838)
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ001944 Dyddiad postio 13/11/2025 Dyddiad cau ceisiadau 28/11/2025 Cyflog Athrawon Graddfa gyflog ynghyd â'r Lwfans AAA (£2,838) Oriau gwaith 0 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil Maerdy CY Teacher perm Complex Needs Class_CY-GB Nov 2021 - Copy.docx Maerdy Class.docx
Athro Dosbarth Cymorth Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anghenion Dysgu Cymhleth)
Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cymorth Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anghenion Dysgu Cymhleth) wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Caradog
Cyflog: Athrawon Graddfa gyflog ynghyd â'r Lwfans AAA (£2,838)
Dyddiad cychwyn: cyn gynted â phosibl
Mae Gwasanaethau Cynhwysiant a Mynediad Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cymorth Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth cyn gynted â phosibl.
Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 8 disgybl o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a bydd yn cael ei staffio gan athro a Chynorthwyydd Cymorth Dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Canolfan Menter y Cymoedd, Parc Hen Lofa'r Navigation, Abercynon, CF45 4SN neu ffoniwch 01443 744333.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos (12pm) ar 28/11/2025.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL ÂR CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.