MANYLION
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Gradd 6 - £28,142 x 65.28%
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Swydd Cynorthwyydd Gradd 6/Lefel 3 Dros Dro (YGG Ynyswen)
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Gradd 6 - £28,142 x 65.28%
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ001943 Dyddiad postio 13/11/2025 Dyddiad cau ceisiadau 21/11/2025 Cyflog Gradd 6 - £28,142 x 65.28% Oriau gwaith 27.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil TA L3_CY-GB.pdf
Swydd Cynorthwyydd Gradd 6/Lefel 3 Dros Dro (YGG Ynyswen)
Disgrifiad Swydd
YSGOL GYNRADD GYMRAEG YNYSWEN
Clinic Rd, Ynyswen, Treorci, Rhondda Cynon Taf, F42 6ED
Swydd Cynorthwyydd Gradd 6/Lefel 3 Dros Dro
Nifer o Oriau'r Wythnos: 27.5 Oriau (Tymor yr ysgol yn unig)
Cyflog: Gradd 6 - £28,142 x 65.28%
Gontract: Dros Dro - 31/08/2026
Dyddiad dechrau'r swydd: Cyn gynted â phosibl
Dymuna Corff Llywodraethol Ynyswen apwyntio gynorthwyydd brwdfrydig, sensitif a chydwybodol.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio dan arweiniad y staff Addysgu a defnyddio ei flaengaredd i weithredu rhaglenni gwaith cytûn, gydag unigolion/grwpiau, yn yr ystafell ddosbarth a'r ardal tu allan. Disgwylir i'r ymgeisydd sefydlu perthynas gadarnhaol gyda disgyblion, gan fod yn esiampl dda a gosod disgwyliadau uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. r ymgeisydd weithio gyda'r athrawes a staff cefnogi er mwyn sefydlu amgylchedd dysgu priodol yn unol â chynlluniau gwersi a chynorthwyo ag arddangos gwaith disgyblion. Edrychwn ymlaen at groesawu aelod newydd i dîm llwyddiannus Ynyswen.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Cerian Roberts, Pennaeth, ar 01443 772432 nodwch rif ffôn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos (12pm) ar 21/11/2025.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.