MANYLION
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £15.51 / awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddwr a Swyddog Cydymffurfiaeth Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £15.51 / awr

Gweinyddwr a Swyddog Cydymffurfiaeth Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW)
Application Deadline: 28 November 2025

Department: Dysgu Seiliedig ar Waith

Employment Type: Dim Oriau

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith

Compensation: £15.51 / awr

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi staff sy'n perfformio'n dda, sy'n ymroddedig ac yn arloesol ac sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymddygiadau, ac yn cyfrannu at amcanion strategol y Coleg. Mae Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) yn darparu ystod eang o raglenni Prentisiaeth a chyflogadwyedd mewn cydweithrediad â phartneriaid ledled Cymru fel rhan o Gonsortiwm B-WBL, dan arweiniad Coleg Sir Benfro. Mae'r tîm DSW yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion cytundebol Llywodraeth Cymru a MEDR a safonau ansawdd Estyn, gan gefnogi ymgysylltiad cyflogwyr, datblygu'r gweithlu, a dilyniant dysgwyr ar draws amrywiol feysydd galwedigaethol. Bydd y Gweinyddwr DSW a'r Swyddog Cydymffurfiaeth yn darparu cefnogaeth weinyddol i'r tîm canolog a'r Ymgynghorwyr Hyfforddi, yn archwilio ac yn gwirio cydymffurfiaeth prosesau digidol, ac yn cysylltu'n agos â'r Rheolwr DSW, yr Arweinydd Gweithredol, yr Uwch Swyddog Cydymffurfiaeth, a'r Swyddog Data MIS er mwyn sicrhau cywirdeb, effeithlonrwydd, a chadw at safonau ansawdd.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Gweinyddwr Dysgu Seiliedig Ar Waith:
  • Gynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu gwasanaeth gweinyddol cyffredinol i Dîm Rheoli Canolog Dysgu Seiliedig ar Waith a'r Ymgynghorwyr Hyfforddi
  • Archwilio dogfennaeth ESF y dysgwr a gyflwynwyd gan yr Ymgynghorydd Hyfforddi, gan roi gwybod am gywirdeb neu anghysondebau
  • Mewnbynnu data i amrywiaeth o systemau cofnodi cyfrifiadurol, gan sicrhau cyflawnder, cywirdeb ac amseroldeb a chydymffurfio â chyfarwyddebau Llywodraeth Cymru;
  • Monitro cywirdeb ffurflenni digidol Prentisiaethau gan ddilyn canllawiau a nodir ym Manylebau Llywodraeth Cymru, gan roi gwybod am gywirdeb neu anghysondebau yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt;
  • Archwilio ansawdd a chydymffurfiaeth yr Adolygiadau Digidol a gynhelir gan yr Ymgynghorwyr Hyfforddi. Darparu adborth digonol ar y system Maytas
  • Monitro cydymffurfiaeth Ymgynghorwyr Hyfforddi mewn perthynas â Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI's) y Consortiwm DSW
  • Cysylltu'n ddyddiol ag Ymgynghorwyr Hyfforddi ar draws pob campws
  • Cynorthwyo'r Swyddog Data MIS i brosesu cofrestriadau digidol dysgwyr, gwahardd dysgwyr dros dro a dod â chyfnod dysgwyr yn y coleg i ben
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • O leiaf 5 TGAU Gradd A - C
  • Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth
  • Prosesu geiriau Safon 2
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft WORD ac EXCEL
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfaprysur
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein