MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd y Ganolfan - Bluestone - Canolfan Adnoddau Dysgu Sir Benfro

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942

Lleoliad: Bluestone (CA3 anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol) neu Stepping Stones (dysgwyr â gorbryder a ffobiâu)
Cyflog:Prif raddfa gyflog / uwch raddfa gyflog + cyfrifoldeb addysgu a dysgu 3 (yn dibynnu ar brofiad) + lwfans anghenion dysgu ychwanegol

Contract: Llawn amser, parhaol

Dyddiad dechrau: Ionawr 2026 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)

Ydych chi'n athro profiadol, gwydn a thosturiol sy'n chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa? Ydych chi'n barod i arwain tîm ymroddedig i wneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau'r dysgwyr sydd ei angen fwyaf?

Mae Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn chwilio am ddau unigolyn eithriadol i ymuno â'n tîm Arweinyddiaeth Ganol fel Arweinwyr Canolfan. Mae'r rolau cyffrous hyn yn cynnig y cyfle i lunio dyfodol disgyblion mewn darpariaeth amgen, gan eu cefnogi i ffynnu'n academaidd ac yn emosiynol.

🏫 Ynglŷn âr rolau

Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag yn y lleoliadau canlynol:
  • Canolfan Bluestone - ein darpariaeth CA3 sy'n cefnogi dysgwyr ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
  • Stepping Stones - ein canolfan sy'n arbenigo mewn cefnogi dysgwyr sy'n orbryderus, sydd â ffobia ysgol neu'n agored i niwed yn emosiynol.
Bydd pob Arweinydd Canolfan yn gyfrifol am arweinyddiaeth eu lleoliad o ddydd i ddydd, gan sicrhau amgylchedd diogel, tawel a phwrpasol ar gyfer dysgu. Byddwch yn goruchwylio'r cwricwlwm, yn rheoli tîm o staff ymroddedig, ac yn gweithio'n agos gyda theuluoedd ac asiantaethau allanol i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr.

💼 Prif gyfrifoldebau
  • Arwain sesiynau ôl-drafod dyddiol a goruchwylio staff addysgu a chymorth
  • Cefnogi gwaith cyflwyno'r cwricwlwm a dadansoddi cynnydd disgyblion
  • Cydlynu cymorth llesiant a gofal bugeiliol
  • Rheoli gweithrediadau'r ganolfan, asesiadau risg, a derbyniadau disgyblion
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol allanol
  • Mynychu cyfarfodydd Arweinyddiaeth Ganol a chyfrannu at ddatblygiad yr ysgol gyfan
👤 Am bwy yr ydym yn chwilio

Rydym yn chwilio am athrawon ysbrydoledig sydd:
  • Yn frwd dros addysg gynhwysol ac ymrwymiad i degwch
  • Yn meddu ar brofiad o weithio gyda dysgwyr agored i niwed neu anghenion dysgu ychwanegol
  • Yn meddu ar sgiliau arweinyddiaeth a threfnu rhagorol
  • Gallu aros yn ddigynnwrf o dan bwysau ac arwain ag uniondeb a thrugaredd
  • Deall pwysigrwydd perthnasoedd wrth reoli ymddygiad ac adfer
🌈 Pam Ymuno â Canolfan Ddysgu Sir Benfro?
  • Bod yn rhan o dîm meithringar, arloesol a blaengar
  • Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddisgyblion sydd ei angen fwyaf
  • Gweithio mewn amgylchedd cefnogol ag arweinyddiaeth gref a gweledigaeth glir
  • Cael mynediad at gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus, hyfforddiant a chefnogaeth llesiant staff (trwy ein uwch-raglen cymorth i weithwyr)
www.theplc.uk

Bydd angen i chi fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.