MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,912 - £38,218
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith (Asesydd) - Gwasanaethau Busnes: Arwain a Rheoli CC/3002

Coleg Cambria

Cyflog: £33,912 - £38,218

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith (Asesydd) - Gwasanaethau Busnes: Arwain a Rheoli

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol: llawn amser

Cyflog: £33,912 - £38,218.

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith mewn Arwain a Rheoli o fewn Gwasanaethau Busnes

Mae'n hanfodol i'r rôl bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg cwbl ddwyieithog

Bydd yr ymarferydd yn asesu Lefel 2, 3, 4 a 5 mewn Arwain a Rheoli yn unol â gofynion y sefydliad Dyfarnu sy'n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. Byddan nhw'n gweithio gyda grŵp o ddysgwyr sydd wedi'i bennu gan fformiwla berthnasol y coleg. Bydd yr Ymarferydd yn cynnal Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi ar gyfer dysgwyr, yn eu cofrestru ar gyrsiau addas ac yn darparu cyfleoedd annog, mentora a dysgu yn ogystal â chyflwyno sesiynau gwybodaeth greiddiol i ddysgwyr naill ai mewn sesiwn 1-1 neu weithdy (rydyn ni'n argymell uchafswm o 8 mewn grŵp)

Byddan nhw'n monitro cynnydd dysgwyr tuag at ennill eu cymwysterau, rhoi adborth cadarnhaol iddyn nhw a'u helpu i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth.

Bydd yr ymarferydd yn asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios sydd wedi eu cwblhau ar gyfer prosesau sicrhau ansawdd mewnol.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster proffesiynol Lefel 3 o leiaf mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster asesydd (TAQA)
  • Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch
  • Profiad amlwg yn y diwydiant mewn maes perthnasol proffesiynol
  • Profiad o gysylltu â rheolwyr diwydiant allanol a phartneru â nhw
  • Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd mewn addysg
  • Bod yn siaradwr Cymraeg cwbl ddwyieithog

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig