MANYLION
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Gradd 6 (£28,142 llawn amser) + Lwfans Dosbarth Arbennig (SCA) - £1,539 x 77.15% (yn ystod tymor yr ysgol)
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Gradd 6 (£28,142 llawn amser) + Lwfans Dosbarth Arbennig (SCA) - £1,539 x 77.15% (yn ystod tymor yr ysgol)
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ001939 Dyddiad postio 12/11/2025 Dyddiad cau ceisiadau 20/11/2025 Cyflog Gradd 6 (£28,142 llawn amser) + Lwfans Dosbarth Arbennig (SCA) - £1,539 x 77.15% (yn ystod tymor yr ysgol) Oriau gwaith 32.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil JD LSA SEBD YBT January 2026.docx YBT Cyflawni Tegwch a Rhagoriaeth mewn Addysg Gwell Lles i Bawb_CY-GB.docx
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (Ysgol Bro Taf)
Disgrifiad Swydd
Rhondda Cynon Taf
Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
Oriau : 32.5 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog : Gradd 6 - £28,142 (Llawn amser) â Lwfans Dosbarth Arbennig - £1,539 X 77.15% (Amser tymor yr ysgol yn unig)
Lleoliad: Wedi'i leoli yn Ysgol Bro Taf.
Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol) yn Ysgol BroTaf.
Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi cynorthwy-ydd cynnal dysgu, i ddechrau ym Ionawr 2026. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau a'r profiad priodol i roi cymorth i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol mewn dosbarth cynnal dysgu yn Ysgol Bro Taf. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at ddeuddeg o ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Yn gyfrifol am y dosbarth mae un athro a dau gynorthwy-ydd cynnal dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, ar 01443 744333.
Mae ffurflenni cais ar gael ac i'w dychwelyd i: Adnoddau Dynol, Tŷ Elái, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY. Rhif ffôn: 01443 444548.
Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 20fed Tachwedd am 11:59 y.p.
Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:
https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.