MANYLION
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 £26,709.00 - £28,695.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Desg Gwasanaethau Cwsmeriaid

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: Graddfa 4 £26,709.00 - £28,695.00

Technegydd Desg Gwasanaethau Cwsmeriaid
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Darparu cymorth technegol rheng flaen a gwasanaethau cwsmeriaid eithriadol i holl staff a dysgwyr y coleg gan sicrhau datrysiad prydlon a diymdroi o faterion cyffredin TG ac uwchgyfeirio problemau cymhleth yn
effeithiol. Y rôl hon ydy’r pwynt cyswllt a chyfathrebu cyntaf ar gyfer gwasanaethau digidol, gan gynnig cymorth ymatebol sy’n galluogi addysgu, dysgu a gweithrediadau gweinyddol effeithiol ar draws pob campws.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk