MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Rydym am benodi darlithydd i gyflwyno agweddau allweddol ar y cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel diogelu a egwyddorion a gwerthoedd gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd a diogelwch; ymarfer proffesiynol ar gyfer y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol.Bydd y rôl yn caniatau i chi ddatblygu fel darlithydd dan arweiniad a chefnogaeth y rheolwr rhaglen ac arweinwyr tîm. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno sesiynau a addysgir i ddysgwyr; ynghyd â gweinyddu ac asesu. Rydym yn annog y defnydd o fethodolegau addysgu a dysgu ymarferol a gweithredol, i ddod â'r dysgu yn fyw. Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch profiad o'ch profiadau i'r addysgu a'r dysgu a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o'r sectorau.
Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a diwydiant yn y sector. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu'r rhai sydd am gymryd eu camau cyntaf i addysgu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/081/25
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Llanelwy
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 10 awr yr wythnos Dydd Llun - Dydd Gwener, yn ystod y dydd. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
hyd at 35 wythnos y flwyddyn
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
01 Rhag 2025
12:00 YH(Ganol dydd)