MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Place of work to be discussed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £17.81 - £19.32 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £17.81 - £19.32 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau
Pwrpas y swydd -Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwyster Nyrsio Deintyddol.
Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.
Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr Busnes a Digidol busnes@gllm a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt. Byddai'r gallu i addysgu grwpiau bach mewn sesiynau gweithdy ym maes Nyrsio Deintyddol yn fanteisiol. Bydd yr asesydd yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i'r dysgwyr:
- O'r ansawdd uchaf posibl
- Yn darparu gwerth am arian
- Yn diwallu anghenion y cyflogwr ac anghenion y myfyrwyr sy'n derbyn hyfforddiant
Yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y coleg
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/080/25
Cyflog
£17.81 - £19.32 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau
Lleoliad Gwaith
- Lleoliad gwaith i'w drafod
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd.
Bydd canran ychwanegol o 10% yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
45 wythnos y flwyddyn
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
01 Rhag 2025
12:00 YH(Ganol dydd)