MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Place of work to be discussed,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Busnes a Digidol, Cytundeb Cyfnod Penodol hyd at Gorffennaf 2027
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae'r rôl hon yn cynnwys bod yn gyfrifol am gefnogi a chyflwyno cymwysterau seiliedig ar waith ym maes Busnes a Digidol i achosion o ddysgwyr ar lefelau 4 a 5, yn bennaf mewn llwybrau Rheoli.Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu a marcio gwaith dysgwyr.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cwrdd â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol, ar safleoedd y coleg neu o bell, gweithio'n annibynnol a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i wneud y defnydd gorau o amser yn ogystal â darparu adnoddau a chefnogaeth i ddiwallu anghenion unigol pob dysgwr yn eu dewis iaith.
Bydd yr asesydd yn un o dîm o aseswyr a darlithwyr o fewn Busnes@GLLM. Bydd yr asesydd yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i'r dysgwyr:
- O'r ansawdd uchaf posibl
- Yn darparu gwerth am arian
- Yn diwallu anghenion y cyflogwr ac anghenion y myfyrwyr sy'n derbyn hyfforddiant
- Yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y coleg
Cyfeirnod y Swydd
BD/079/25
Cyflog
£28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Lleoliad gwaith i'w drafod
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
28 Tach 2025
12:00 YH(Ganol dydd)