MANYLION
  • Lleoliad: Place of work to be discussed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Busnes a Digidol

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae'r rôl hon yn cynnwys bod yn gyfrifol am gefnogi a chyflwyno cymwysterau seiliedig ar waith ym maes Busnes a Digidol i achosion o ddysgwyr ar lefelau 4 a 5, yn bennaf mewn llwybrau Rheoli.
Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu a marcio gwaith dysgwyr.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cwrdd â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol, ar safleoedd y coleg neu o bell, gweithio'n annibynnol a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i wneud y defnydd gorau o amser yn ogystal â darparu adnoddau a chefnogaeth i ddiwallu anghenion unigol pob dysgwr yn eu dewis iaith.
Bydd yr asesydd yn un o dîm o aseswyr a darlithwyr o fewn Busnes@GLLM. Bydd yr asesydd yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i'r dysgwyr:
  • O'r ansawdd uchaf posibl
  • Yn darparu gwerth am arian
  • Yn diwallu anghenion y cyflogwr ac anghenion y myfyrwyr sy'n derbyn hyfforddiant
  • Yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y coleg
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/078/25

Cyflog
£28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Lleoliad gwaith i'w drafod

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
28 Tach 2025
12:00 YH(Ganol dydd)