MANYLION
  • Lleoliad: Pwllheli,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £16,151.86 - £24,967.09 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Gofal Plant, 0.5

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £16,151.86 - £24,967.09 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd -

Byddwch yn ymuno â thîm o ddarlithwyr sy'n gyfrifol am ddarparu Addysg Bellach ac/neu Addysg Uwch ar gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae oddeutu 200 o fyfyrwyr yn astudio'n ddwyieithog yn yr Adran Iechyd a Gofal ar draws y ddau gampws yn Nolgellau a Phwllheli. Rydym yn cynnig cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn ogystal â cwrs Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd), cwrs L4 i L6 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Bagloriaeth Cymru.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu ar y cyrsiau Addysg Bellach ac/neu Addysg Uwch yn unol â'u maes arbenigedd. Mesurir llwyddiant ein hadran gan y dysgu o ansawdd uchel a'r cyfleoedd a gynigir i'n dysgwyr. Yng nghanlyniadau Lefel-A Iechyd a Gofal Cymdeithasol Haf 2025, llwyddodd ein myfyrwyr gyda chyfradd llwyddiant o 100%. Mae ein myfyrwyr yn aml yn cyflawni graddau uwchlaw'r cymhardd cenedlaethol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/077/25

Cyflog
£16,151.86 - £24,967.09 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

• Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.

Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos

417.5 awr o amser addysgu blynyddol - 12 i 13 awr yr wythnos.

Hyd at 2.5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle drwy gytundeb a'r rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
28 Tach 2025
12:00 YH(Ganol dydd)