MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,192.24 - £34,347.66 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Trosglwyddo Iechyd Meddwl a Lles, Cyfnod penodol hyd at 30 Mehefin 2026
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £32,192.24 - £34,347.66 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swydd - Swydd weinyddol newydd a chyffrous am gyfnod penodol yw hon yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Lles Gwasanaethau i Ddysgwyr (diogelu), Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, y Cydlynwyr Cymorth Dysgu, Lles Ysgolion, Cynhwysiant Staff a Dysgu Seiliedig ar Waith, yn ogystal â Meddygon Teulu, y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS) a'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, i sicrhau bod dysgwyr ag anghenion iechyd meddwl ac/neu anghenion diogelu'n trosglwyddo'n ddidrafferth i'r coleg o ysgolion a lleoliadau eraill a'u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.Rhoddir ystyriaeth i Secondiad
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/075/25
Cyflog
£32,192.24 - £34,347.66 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Llandrillo-yn-Rhos
- Lleoliad gwaith i'w drafod
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
27 Tach 2025
12:00 YH(Ganol dydd)