MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £20,026.18 - £22,701.74 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynghorwr Myfyrwyr

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £20,026.18 - £22,701.74 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd - Darparu gwasanaeth cynghori a chefnogi effeithiol, effeithlon a chyfeillgar i ddarpar fyfyrwyr a dysgwyr sy'n astudio yng Ngholeg Menai. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys gweithio wrth ddesg gymorth gan gynorthwyo dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio, darparu cymorth a'u cyfeirio fel y bo briodol, darparu gwybodaeth ac arweiniad ar amrediad o ddarpariaethau a gwasanaethau ariannol i fyfyrwyr, gweinyddu cronfeydd cyllid myfyrwyr, derbyn a chofnodi ceisiadau gan fyfyrwyr am wasanaethau ariannol, mewnbynnu a chadw cofnodion o ddata.

Byddwch yn gallu dangos bod gennych brofiad o weithio mewn swydd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a bydd arnoch angen sgiliau TG da. Mae'n hanfodol fod gennych sgiliau gwasanaethu cwsmeriaid a chyfathrebu o'r radd flaenaf. Mae'r gallu i fod yn hyblyg a gweithio mewn amgylchedd deinamig yn hanfodol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/073/25

Cyflog
£20,026.18 - £22,701.74 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Patrwm gweithio
30 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
26 Tach 2025
12:00 YH(Ganol dydd)