MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Work location to be confirmed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.72 - £33.57 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £21.72 - £33.57 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae hwn yn gyfle i unigolion cymwys, egniol a brwdfrydig i ymuno gyda Thím Addysg Oedolion Cymunedol - Potensial yng Ngwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu:- • Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
- • Addysgu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol
- • Addysgu pwnc arbenigol arall e.e. Celf, Cyflogadwyeth, Cymdeithaseg, Gweinyddu Busnes neu unrhyw bwnc arbenigol arall
- • Cynorthwyo i ddatblygu'r ddarpariaeth Addysg Oedolion yng Ngwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych
Mae'n gyfnod cyffrous i'r sector Addysg Oedolion:mae iddi ran flaenllaw i gefnogi adfywiad economaidd a datblygiad sgiliau drwy ddarparu cyfleon hyfforddiant ac hefyd i ysgogi diwylliant o ddysgu gydol oes er budd unigolion a chymunedau.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/071/25
Cyflog
£21.72 - £33.57 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Lleoliad gwaith i'w gadarnhau
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd ond gall gynnwys nosweithiau a penwythnosau. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Wythnosau Gwaith I'w gytuno gyda'r Rheolwr Maes Rhaglen
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
25 Tach 2025
12:00 YH(Ganol dydd)