MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhos-on-Sea,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae tîm Marchnata effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i lwyddiant parhaus Grŵp Llandrillo Menai.Mae gan y Swyddog Cyfathrebu rôl allweddol i'w chwarae yn y tîm drwy sicrhau bod y Grŵp yn cael sylw eang/cadarnhaol yn y wasg a'r cyfryngau, tra hefyd yn cefnogi'r adran gyda chynhyrchu cyhoeddiadau a hysbysebion a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ystod o sgiliau a gwybodaeth i'w alluogi i gyfrannu'n effeithiol i ddarparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu o'r radd flaenaf, yn fewnol ac yn allanol. Yn benodol, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ysgrifennu datganiadau o ansawdd uchel i'r wasg ar gyfer ffynonellau newyddion lleol a rhanbarthol, y wefan ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd wedi eu lleoli ar gampws y Grŵp yn Llandrillo-yn-Rhos, a bydd disgwyl ymweld â'r campysau eraill yn ôl yr angen.
Yn ogystal, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, y tu mewn a'r tu allan i'r coleg, gyda chyflenwyr a gyda rhanddeiliaid eraill. Bydd hefyd yn cynorthwyo aelodau eraill y Gyfarwyddiaeth Farchnata a Chyfathrebu ac yn ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill ar gais Rheolwr y Tîm Marchnata a Chyfathrebu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/068/25
Cyflog
£28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
24 Tach 2025
12:00 YH(Ganol dydd)