MANYLION
  • Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £15.03 / awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr Achlysurol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £15.03 / awr

Gofalwr Achlysurol
Application Deadline: 20 November 2025

Department: Arall

Employment Type: Dim Oriau

Location: Campws Rhydaman

Compensation: £15.03 / awr

DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd, ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i berson rhagweithiol a dyfeisgar.
Ar ein Campws Rhydanman mae'r gweithgarwch dysgu yn canolbwyntio ar iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, ynghyd â chrefftau'r diwydiant adeiladu. Mae'r adran adeiladu'n cyflwyno cyrsiau mewn gosod brics, gwaith plymwr, plastro, peintio, addurno, gosod trydanol a chrefftau pren.
Mae rôl y Gofalwr yn chware rhan hanfodol o ran sicrhau bod y campysau'n gweithredu'n ddidrafferth ac yn effeithlon o ddydd i ddydd er mwyn darparu'r amgylchedd dysgu gorau posibl i'n dysgwyr a'n staff ar gyfer cyflawni eu potensial. Mae gofalwyr yn rhan annatod o dîm y coleg.
Mae swydd Gofalwr yng Ngholeg Sir Gâr yn cynnig rôl ddiddorol ac amrywiol i berson sy'n meddu ar y sgiliau priodol, brwdfrydedd, hyblygrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at waith. Mae'n rôl ymdrechgar a chorfforol gyda swm sylweddol o amser yn cael ei dreulio'n cerdded o gwmpas yr adeiladau a'r safleoedd.
Caiff system rota "ar alw" (dydd Llun i ddydd Sul) ei gweithredu ar yr holl gampysau er mwyn sicrhau bod staff yn barod i weithio pan fydd galwadau brys. Mae mynychu safle pan fydd larymau yn seinio neu unrhyw sefyllfa argyfwng arall yn amod sylfaenol o gyflogaeth.
Yn ychwanegol, efallai bydd angen gweithio ar y penwythnos.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Gofalwr:-
  • Sicrhau diogelwch y safle ynghyd â chynnwys y safle; gan gynnwys cyfrifoldebau daliwr allweddi a gweithredu systemau larwm diogelwch.
  • Gweithredu systemau gwresogi a golau ar y campysau. Rhoddir hyfforddiant a chyfarwyddyd llawn ar weithredu'r systemau rheoli gwres a dŵr poeth cyfrifiadurol. Ymgymryd â gwiriadau i sicrhau bod yr holl systemau yn gweithio'n gywir a bod tymereddau ystafelloedd yn cael eu cynnal. Adrodd wrth y Rheolwr Campws am unrhyw ddiffygion / faterion ar unwaith. Rhoddir hyfforddiant
  • Cynnal profion larwm tân wythnosol a diweddaru rhestri gwirio cofnodi.
  • Cynnal gwiriadau wythnosol o ddrysau tân a drysau allanol eraill, diweddaru rhestri gwirio cofnodi a sicrhau y cedwir pob drws yn glir.
  • Gwirio cyfarpar ymladd tân yn rheolaidd a sicrhau bod yr holl ddrysau allanfa'n cael eu cadw'n glir.
  • Cynorthwyo'r Rheolwr Campws / Rheolwr Campws Cynorthwyol gyda gwacáu'r campws.
  • Ymgymryd â monitro hylendid dŵr (profi dŵr am glefyd y lleng filwyr) yn rheolaidd, i gydymffurfio â Deddfwriaeth, gan nodi canfyddiadau ar daflenni cofnodi a hysbysu Rheolwr Llinell ar unwaith am unrhyw ddarlleniadau annormal. Rhoddir hyfforddiant.
  • Cymryd darlleniadau rheolaidd o'r mesuryddion cyflenwadau trydan, nwy a dŵr.
  • Gwagio biniau gwastraff a sicrhau bod yr holl fagiau wedi eu lleoli yn yr ardaloedd priodol ar gyfer eu casglu gan y casglwyr sbwriel penodedig.
  • Sicrhau bod gwastraff yn cael ei storio'n gywir ar y safle a bod ardaloedd cadw gwastraff yn cael eu cadw mewn cyflwr da.
  • Cynorthwyo'r Coleg i ailgylchu eitemau a deunyddiau ar y safle. Mae'r Coleg wedi cadw'n llwyddiannus gwobr Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd am y 4 blynedd olaf ac mae arferion ailgylchu rhagorol y Coleg wedi cyfrannu'n sylweddol at y gamp hon.
  • Ymgymryd â gwiriadau o bryd i'w gilydd o osodion a ffitiadau mewn ystafelloedd a chwblhau'r ddogfennaeth berthnasol.
  • Sicrhau bod cyfleusterau toiled yn gweithio bob amser ac yn rhydd o rwystrau.
  • Archebu, trwy'r Rheolwr Campws, cyflenwadau hylendid personol a sicrhau bod y cyflenwadau yn cael eu storio'n gywir a'u dosbarthu ar y campws.
  • Sicrhau glendid ardaloedd awyr agored gan gynnwys cysgodfeydd ysmygu, symud sbwriel, cerrig, gwydr, papur, ayb.
  • Cadw'r ystafelloedd boeler mewn cyflwr glân a thaclus.
  • Sicrhau nad oes deunyddiau hylosg yn cael eu gadael mewn ardaloedd anaddas ac annog pobl i fod yn gymen ar draws y campws.
  • Glanhau gylïau a chafnau yn achlysurol yn ôl cyfarwyddyd yr Adran Ystadau.
  • Cynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw'r tiroedd yn ôl cyfarwyddyd yr Adran Ystadau.
  • Tynnu sylw'r Adran Ystadau trwy'r Rheolwr Campws/Rheolwr Campws Cynorthwyol at unrhyw waith atgyweirio neu gynnal a chadw sydd ei angen ar y safleoedd, sydd y tu hwnt i allu'r staff gofalu.
  • Gwneud mân waith cynnal a chadw ac atgyweirio i adeiladau, gosodiadau, ffitiadau a chyfarpar nad ydynt y tu hwnt i allu crefftwr.
  • Newid bylbiau golau, tiwbiau, ffitiadau cychwyn ayb.
  • Ymgymryd ag ailaddurno / peintio ardaloedd yn ôl cyfarwyddyd yr Adran Ystadau.
  • Cyfeirio gweithwyr, contractwyr ac ymwelwyr i ardaloedd perthnasol ar y safle.
  • Defnyddio cerbydau'r coleg yn ôl y gofyn ar gyfer amrywiol ddyletswyddau gan gynnwys mynd â cherbydau am wasanaeth, MOT, gwaith atgyweirio, newid teiars ayb. Bydd rhaid ymgymryd ag asesiad gyrru bws mini.
  • Gwneud gwiriadau wythnosol o gerbydau'r coleg a rhestri gwirio cofnodi.
  • Glanhau cerbydau'r coleg yn ôl y gofyn gan y Rheolwr Campws.
  • Cynorthwyo gyda rheoli a monitro traffig
  • Gosod ystafelloedd yn ôl y gofyn gan y Rheolwr Campws/Rheolwr Campws Cynorthwyol
  • Ymgymryd â dyletswyddau cludiant.
  • Adrodd wrth y Rheolwr Campws/Rheolwr Campws Cynorthwyol ar unwaith am unrhyw ddifrod i eiddo neu unrhyw ddiffygion i gyfleusterau.
  • Hysbysu'r Rheolwr Campws/Rheolwr Campws Cynorthwyol am unrhyw faterion iechyd a diogelwch gwirioneddol neu bosibl.
  • Perfformio'r holl ddyletswyddau gan amharu cyn lleied â phosibl ar waith y coleg neu ddosbarthiadau bob amser.
  • Cwblhau'r holl waith papur angenrheidiol a ofynnir a'i anfon ymlaen fel y bo'n briodol, gan gadw at derfynau amser penodol yn unol â chais y Rheolwr Campws.
  • Ymgymryd ag asesiadau Iechyd a Diogelwch COSHH ac asesiadau risg.
  • Bod yn hyddysg mewn TG (defnydd o gyfrifiadur) i weithredu systemau TG a dyfeisiau symudol sy'n berthnasol i arferion gwaith.
  • Bod yn barod i gyflenwi fel gofalwr ar safleoedd eraill - weithiau gofynnir am hyn ar fyr-rybudd.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Campws sy'n gymesur â gradd y swydd yn y gweithle cychwynnol neu mewn lleoliadau eraill yn y Coleg.
  • Oherwydd natur y swydd, rhaid i'r Rheolwr Campws / Rheolwr Campws Cynorthwyol allu cysylltu â staff Gofalu bob amser tra yn y gwaith neu "ar alw", felly rhaid i ddeilydd y swydd gario dull penodedig o gyfathrebu (ffonau symudol y Coleg neu radio dwy ffordd).

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Crefft briodol neu brofiad perthnasol
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Gallu trefnu a chynllunio gwaith fel y caiff ei ddyrannu
  • Profiad blaenorol o waith cynnal a chadw ac atgyweirio
  • Hyddysg mewn TG a hyderus wrth ddefnyddio systemau TG a dyfeisiau symudol
  • Sgiliau dadansoddi da
  • Lefel uchel o hunangymhelliant
  • Diplomyddiaeth a thact
  • Y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau
  • Gallu cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel
  • Gallu gweithio dan bwysau
  • Gallu cynnal cyfrinachedd llym
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
  • Gallu i arddangos hyder a sefydlu perthynas gadarnhaol â phobl
  • Ffordd hawdd mynd ato, hyblyg a phroffesiynol
  • Y gallu i weithio ar ei ben ei hun neu fel rhan o dîm
Dymunol
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein