MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Cyfradd Prentisiaid
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Cyfradd Prentisiaid
Prentis Gwasanaethau Myfyrwyr (Derbyniadau)Llawn Amser (37 awr yr wythnos) a Chyfnod Penodol am 2 Flynedd
Cyfradd Prentisiaid
Blwyddyn gyntaf: £14,566.15 (£7.55 yr awr)
Ail flwyddyn: Isafswm Cyflog Cenedlaethol Dibynnol ar Oedran
Mae gennym gyfle newydd a chyffrous i Brentis Gwasanaethau Myfyrwyr (Derbyniadau) ymuno â thîm gwych yng Ngholeg Penybont.
I ymgymryd â Phrentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 2 yn Adran Gwasanaethau Myfyrwyr (Derbyn) Coleg Penybont.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth y swydd .
Noder, oherwydd gofynion cymhwysedd yn unol â fframwaith ariannu'r Rhaglen Brentisiaethau, ni allwn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster Lefel 4 neu uwch.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU. Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.