MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Oldcastle Primary School,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £18,133-£18,724 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Oldcastle
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £18,133-£18,724 y flwyddyn
Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd OldcastleDisgrifiad swydd
28.75 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2026
Yn ystod tymor yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yn ysgol gynradd fywiog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n ymroddedig i ysbrydoli, cymell, ac addysgu dros 400 o blant 3 i 11 oed. Rydym yn ysgol uchelgeisiol lle mae gwerthoedd dysgu yn sail i ragoriaeth, lle mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi, a lle mae cyflawniadau'n cael eu dathlu. Mae ein disgyblion, ein staff, a'r gymuned ehangach yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu diogel, hapus, ac arloesol. Rydym wedi ein cydnabod gan Estyn fel ysgol gynhwysol a chroesawgar, ac rydym yn ymfalchïo yn ein hethos cryf o lesiant disgyblion, parch, ac ymgysylltu â'r gymuned. Yn Ysgol Gynradd Oldcastle, mae addysg yn fwy na dysgu yn unig - mae'n ymwneud â meithrin dysgwyr hunanhyderus sy'n barod i wynebu'r byd.
Lleoliad: Ysgol Gynradd Oldcastle, Pen-y-bont ar Ogwr
Y rôl:
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Oldcastle am benodi Swyddog Cymorth Dysgu llawn cymhelliant i ymuno â'n hysgol gefnogol a blaengar ar ei thaith i ragoriaeth. Bydd angen i'r person a benodir fod yn unigolyn sy'n llawn cymhelliant ac yn gallu ysbrydoli a gwneud dysgu yn hwyl, person â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu eithriadol sy'n gallu ymgysylltu â phlant ac ennyn eu brwdfrydedd, rhywun sy'n gallu pennu a chynnal safonau uchel o ddysgu ac ymddygiad.
Pam ymuno ag Ysgol Gynradd Oldcastle?
Byddwch yn rhan o gymuned ysgol gefnogol a chynhwysol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi.
Gweithiwch mewn amgylchedd bywiog ac arloesol sy'n ymroddedig i lesiant a chyflawniad disgyblion.
Ymunwch â thîm cefnogol sy'n ymrwymedig i ragoriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus.
Mwynhewch weithio mewn ysgol sy'n cael ei chydnabod gan Estyn am ei hethos cryf, ymgysylltu â'r gymuned, a'i hawyrgylch croesawgar.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 05 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person