MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Archdeacon John Lewis Church in Wales Primary School,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £2,824 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd yr Archddiacon John Lewis
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £2,824 y flwyddyn
Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd yr Archddiacon John LewisDisgrifiad swydd
5 awr yr wythnos
Amser tymor
Dros dro tan ddiwedd Tymor yr Haf 2026
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Archddiacon John Lewis am benodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 12 ac 1pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt a bod yn barod i gynnal gwerthoedd ac ethos Cristnogol yr ysgol.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 26 Tachwedd
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person