MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £16,151 - £24,967 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd - Celf a Dylunio 0.5

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £16,151 - £24,967 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag adran sy'n gweithredu ar y lefel uchaf yng Ngholeg Llandrillo, rhan o Grŵp Llandrillo Menai. Mae Celf a Dylunio yn rhan o Faes Rhaglen Cyfrifiadura a'r Diwydiannau Creadigol yn y coleg. Yn y lle cyntaf bydd y rôl yn cynnwys gwaith addysgu rhaglenni Lefel-A Celf a Dylunio ac yn cynnwys hefyd cyfraniad at y ddarpariaeth ran-amser i oedolion a'r cyrsiau galwedigaethol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gampws Llandrillo-yn-Rhos gyda pheth addysgu Lefel-A yn digwydd ar ein campws yn y Rhyl. Byddwch yn ymuno â thîm sy'n gwneud pob ymdrech i gynnig addysgu o safon, a chynnig cyfleoedd ardderchog i ddysgu, er mwyn galluogi pob myfyriwr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.


Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/056/25

Cyflog
£16,151 - £24,967 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
  • 46 diwrnod y flwyddyn o wyliau.
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.


Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos.

417.5 awr o oriau addysgu blynyddol - 12 i 13 o oriau addysgu bob wythnos,

Hyd at 2.5 awr yr wythnos o weithio oddi ar y safle i'w gytuno â'r rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
05 Tach 2025
12:00 YH (Ganol dydd)