MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £15.03 / awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Hwb 3G Achlysurol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £15.03 / awr

Cynorthwyydd Hwb 3G Achlysurol
Application Deadline: 31 October 2025

Department: Hwb 3G

Employment Type: Dros dro

Location: Campws Graig

Compensation: £15.03 / awr

DescriptionYdych chi'n frwd dros chwaraeon ac yn mwynhau creu profiad cadarnhaol i eraill? Ydych chi'n chwilio am rôl hyblyg sy'n eich cadw'n actif, yn ennyn eich diddordeb, ac yn golygu eich bod yn rhan o amgylchedd coleg a chymunedol ffyniannus? Os felly, efallai mai dyma'r cyfle i chi!

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, dibynadwy a rhagweithiol i ymuno â'n Tîm deinamig yn yr Hwb 3G yng Ngholeg Sir Gâr. Wedi'ch lleoli yn ein cyfleusterau maes chwarae 3G, meysydd chwarae a champfa newydd sbon, o safon uchel ar Gampws y Graig, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r gwaith o redeg y ganolfan o ddydd i ddydd - gan helpu i ddarparu profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr, clybiau chwaraeon a'r gymuned ehangach.

P'un a ydych chi'n gosod cyfarpar, yn cefnogi gweithgareddau i bobl ifanc yn ystod y gwyliau, neu'n sicrhau bod y cyfleusterau'n ddiogel ac yn groesawgar, bydd pob shifft yn wahanol. Os ydych chi'n frwd dros chwaraeon, gwasanaeth cwsmeriaid, a gwneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Cynorthwyydd Hwb 3G:
  • Gynorthwyo gyda chydlynu gweithgareddau ar y maes chwarae 3G, y campfeydd a'r meysydd chwarae glaswellt
  • Rheoli cyfnodau newid drosodd y sesiynau gan gynnwys cydosod a datgysylltu cyfarpar priodol
  • Cynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw'r maes chwarae 3G a'r campfeydd
  • Ymdrin ag ystod eang o unigolion a sefydliadau sy'n defnyddio'r maes chwarae 3G, y campfeydd a'r meysydd chwarae glaswellt
  • Sicrhau bod defnydd y cyfleusterau gan aelodau'r cyhoedd yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisi'r coleg
  • Agor a chloi'r cyfleusterau
  • Cynorthwyo gyda rhedeg y gwersylloedd gwyliau ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hanfodol
  • Diddordeb profedig mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
  • Profiad o weithio gydag aelodau o'r cyhoedd
  • Sgiliau rhyngbersonol, trefniadol a chyfathrebu cryf
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Agwedd hyblyg, gadarnhaol a pharodrwydd i weithio gyda'r nos/ar y penwythnos
Dymunol
  • TGAU Saesneg a Mathemateg o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Ymwybyddiaeth o faterion iechyd a diogelwch mewn chwaraeon

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein