MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhyl,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £19.86 - £21.19 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol - Modurol, Trwsio a Phaentio Cyrff Cerbydau
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £19.86 - £21.19 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddO dan arweiniad staff darlithio, bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd i ddysgwyr sy'n gwneud gweithgareddau ymarferol mewn gweithdy ymarferol, cegin neu amgylchedd salon a byddant yn cynorthwyo a chefnogi darlithwyr i olrhain ac asesu cynnydd dysgwyr gan gynnig arweiniad a chefnogaeth os yn briodol.
Bydd y goruchwyliwr yn sicrhau safonau priodol o ddisgyblaeth, iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnal cydymffurfiaeth ag arferion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol. Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys paratoi deunyddiau, offer, cyfarpar, a gweithfannau ar gyfer sesiynau ymarferol, cynnal amgylchedd y gweithdy, offer, a pheiriannau yn ystod sesiynau pan nad oes addysgu yn digwydd, a chyfrannu at weithgareddau marchnata a recriwtio, a datblygiad proffesiynol yn ôl yr angen.
Mae'n debygol y bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol wedi ei amserlennu am hyd at 1000 o oriau cyswllt gyda dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd gyda lleiafswm o 500 awr yn goruchwylio dysgwyr mewn gweithdy.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/051/25
Cyflog
£19.86 - £21.19 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol
Patrwm gweithio
hyd at 27 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymhorau'r Coleg)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
03 Tach 2025
12:00 YH (Ganol dydd)