MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694
Angen Gweinyddwr Sgiliau Hanfodol Llawn Amser - Gradd 5Bod yn gyfrifol am weinyddu darpariaeth ES/ESOL ledled y Sir gyda chyfrifoldeb penodol am swyddogaethau gweinyddol, gan gynnwys y dderbynfa, sgiliau bysellfwrdd/cyfrifiadura, ffeilio, ac ymdrin ag ymholiadau ffôn.
Gweinyddu cyllid ES/ESOL yn unol â rheoliadau ariannol Cyngor Sir Penfro
Mewnbynnu a phrosesu data ariannol a data sy'n gysylltiedig â chyrsiau, gan gynnwys darparu ffurflenni ystadegol cywir ac amserol
Cynorthwyo gweinyddwr arholiadau gyda chofnodion/canlyniadau arholiadau ar y gronfa ddata a chyda Agored Cymru
Darparu arweiniad a chyngor i oedolion i fyfyrwyr, (cyfeirio/rhwydweithio gyda Gyrfaoedd Cymru a Choleg Sir Benfro)
Cynorthwyo i baratoi a hyrwyddo llyfrynnau a thaflenni mewn perthynas â gweithgareddau a gwasanaethau a ddarperir gan Addysg a Gwasanaethau Cymunedol.
Casglu, cofnodi a chodio hawliadau cyflog tiwtoriaid unigol yn fisol
Cynorthwyo gyda marchnata a hyrwyddo gweithgareddau/dosbarthiadau newydd yn ôl yr angen
Cynnal data a chronfa ddata myfyrwyr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl gofynion y Cyfarwyddwr Addysg
Rhoi sylw dyledus i ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a chynnal amgylchedd gwaith diogel
Cymwysterau clerigol/gweinyddol/ysgrifenyddol proffesiynol priodol; byddai cymhwyster i lefel Technegydd Cyfrifyddu neu gyfwerth yn fantais
Gwybodaeth gadarn o weithdrefnau cadw llyfrau/cyfrifyddu/bancio Rhifedd, cywirdeb a dull gwaith methodolegol
Sgiliau bysellfwrdd a gwybodaeth ymarferol o daenlenni ac offer eraill a ddefnyddir ar gyfer
dadansoddi data ariannol a data arall
Rhaid gallu cyfathrebu'n effeithiol â myfyrwyr, tiwtoriaid, cynrychiolwyr cymunedol ac asiantaethau allanol
Rhaid gallu gweithio heb oruchwyliaeth, defnyddio menter a chwblhau tasgau o fewn terfynau amser penodol
Byddai rhywfaint o wybodaeth am Faterion Cymunedol neu faterion sy'n ymwneud ag ESOL yn ddymunol
Byddai meddu ar drwydded yrru lawn a mynediad at eich cludiant eich hun yn fantais
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.