MANYLION
  • Lleoliad: Llangynwyd Primary,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: L12-L18* £69,088 - £79,288 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Llangynwyd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: L12-L18* £69,088 - £79,288 y flwyddyn

Pennaeth - Ysgol Gynradd Llangynwyd
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Mae Ysgol Gynradd Llangynwyd wedi'i lleoli yng Nghwm Llynfi. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ac mae'n ysgol leol uchel ei pharch a phoblogaidd gyda thua 90 o blant ar y gofrestr. Mae'r ysgol yn cynnwys dau ddosbarth adnoddau GOFAL sy'n cynnig darpariaeth i ddisgyblion ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig (ASD).

Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol ichi roi arweiniad i'r ysgol er mwyn cynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad a llesiant tra'n cadw'r ethos a chynwysoldeb cryf.

A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, y Gwasanaeth Cynhwysiant, asiantaethau allanol a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 05 Tachwedd 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 07 Tachwedd 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 20 a 21 Tachwedd 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person