MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,424 - £25,199 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,424 - £25,199 / blwyddyn
Gweinyddwr y GofrestrfaApplication Deadline: 24 October 2025
Department: Cofrestrfa
Employment Type: Contract / Dros dro
Location: Campws Graig
Compensation: £24,424 - £25,199 / blwyddyn
DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous ar gyfer Gweinyddwr y Gofrestrfa i ymuno â'n tîm prysur yn y gofrestrfa am dymor dros dro penodol, ar Gampws y Graig yn Llanelli.
Campws y Graig yw'r mwyaf o bum campws Coleg Sir Gâr. Lleolir y Campws ger pentref Pwll ar arfordir De-orllewin Cymru yn Llanelli. Gyda golygfeydd o benrhyn Gŵyr gerllaw, mae'r Campws yn lle gwych i weithio ac astudio gydag ystod o gyfleusterau addysgu ag adnoddau da a'r Hwb, sef ardal i'r myfyrwyr a ddyluniwyd ar gynllun cyfoes ar gyfer cymorth personol a chyfleoedd dysgu.
Fel Gweinyddwr y Gofrestrfa, byddwch yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith o gasglu a chyflwyno data addysg bellach ac uwch, ac o hyn caiff y Coleg ei ariannu a'i berfformiad ei fonitro. Bydd y rôl yn rhoi cipolwg ardderchog i'r ymgeisydd llwyddiannus ar adran y gofrestrfa lle byddwch chi'n gweithio'n agos gydag adrannau amrywiol ar draws Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
Y prif gyfrifoldebau yw cynorthwyo gyda phroses gofrestru dysgwyr yn y Coleg. Byddwch chi hefyd yn casglu a mewnbynnu data ar gyfer y Coleg a'r holl gyrff dyfarnu a chyllido allanol, gan sicrhau bod data cywir yn cael ei gynnal ar MIS y Coleg Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda gweinyddu gweithdrefnau cofrestru ac arholiadau, gan gynnwys derbyn a dosbarthu canlyniadau arholiadau a thystysgrifau.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Gynorthwyo gyda'r broses o gofrestru dysgwyr yn y Coleg e.e. Addysg Bellach, Addysg Uwch, Cyswllt Ysgolion ac ati.
- Casglu a mewnbynnu data sydd ei angen ar gyfer rheolwyr y Coleg ac ar gyfer yr holl gyrff dyfarnu ac ariannu allanol; sicrhau bod data cywir yn cael ei gynnal ar MIS y Coleg.
- Cynorthwyo gydag ymarferion gwirio data sy'n ofynnol er mwyn paratoi ar gyfer dychwelyd ffurflenni cyllid MEDR mewn modd amserol.
- Cynorthwyo gyda gweinyddu cofrestriadau a gweithdrefnau arholiadau ble bo'n ofynnol.
- Cynorthwyo gyda derbyn a dosbarthu canlyniadau arholiadau a thystysgrifau mewn cysylltiad â swyddfa'r campws.
- Cyfrannu at gasglu a chofnodi data cyrhaeddiad i gefnogi ariannu a monitro perfformiad.
- Cefnogi'r broses o ddarparu cadarnhad o bresenoldeb a data hanes academaidd e.e. ceisiadau am eirdaon academaidd.
- Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer adran y gofrestrfa o ran gweinyddu cofnodion myfyrwyr, cofrestrau presenoldeb a rhestrau gwirio.
- Cyfathrebu ag amrywiaeth o adrannau yn fewnol ac yn allanol i sicrhau bod cofnodion myfyrwyr cywir yn cael eu cofnodi ar MIS y Coleg.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Manyleb Yr UnigolynHanfodol
- Cymwysterau Priodol hyd at Lefel 3 neu brofiad cyfwerth
- TGAU Saesneg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- TGAU Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- Profiad perthnasol o weinyddu
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys
- Defnyddio cronfeydd data i gofnodi ac adrodd ar ddata
- Dealltwriaeth o faterion Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Mae'r gwaith o lunio rhestr fer yn debygol o gael ei gwblhau yn yr wythnos sy'n dechrau ar 27ain Hydref 2025. Os ydych yn llwyddiannus yn ystod llunio'r rhestr fer, mae'n debygol y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau 10fed Tachwedd 2025.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein