MANYLION
  • Lleoliad: Barry, Vale of Glamorgan, CF62 8YU
  • Pwnc: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwywyr Dosbarth Uwchradd L3 (mwy nag un swydd)

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Swydd: Cynorthwyydd Cymorth Dosbarth

Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 5 SCP 8-12 (£20,852-£22,571 pro rata)

Cytundeb: 1 Blwyddyn / Parhaol

Oriau: Llawn Amser (32.5awr yr wythnos / 39wythnos y flwyddyn)

Hysbyseb: 10fed o Fehefin 2022

Dyddiad Cau: 24ain o Fehefin 2022

Swydd i ddechrau: 1af o Fedi 2022

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.

Os ydych yn chwilio am gyfle i weithio mewn rôl lle mae pob diwrnod yn hollol wahanol gall hyn fod y swydd i chi! Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno ag Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn ein Hadran Cynnal Dysgu. Mae hyn yn rhan o ymgyrch recriwtio felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich cais mor gynted ac sydd phosibl fel nad ydych yn colli’r cyfle!
Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi myfyrwyr ar draws holl gwricwlwm yr ysgol yn hytrach nag mewn un adran benodol.
Yn cyd-weithio gydag athrawon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu profiad dysgu arbennig i’n myfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau.
Dyma gyfle cyffrous i gynnig cefnogaeth yn y dosbarth, ac mewn rhai amgylchiadau tu allan i’r dosbarth, i ddysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion dysgu. Bydd natur y gefnogaeth yn gallu amrywio o gefnogi grwpiau bach i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi myfyrwyr gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un. Mae’r gallu i ddangos empathi tuag at fyfyrwyr sydd ag anawsterau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi dysgwyr. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau yma.
Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol fyfyrwyr a staff, yn barod am sialensiau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu’n bersonol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg o safon dda, blaengaredd a’r gallu i gyfathrebu’n dda gyda staff dysgu a myfyrwyr. Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio naill a’i llawn (32.5 awr) neu rhan amser. Nodwch y nifer o oriau yr ydych am weithio yn eich datganiad ategol os gwelwch yn dda. Fe fydd cyfleoedd ar gael i gynyddu ar y nifer o oriau a chyflog wrth gynnig clybiau ar ôl ysgol. Nodwch fanylion o unrhyw glybiau y byddech yn gallu ei gynnig yn eich ffurflen cais.
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio 01446 450280 neu ebost ed@bromorgannwg.org.uk

Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.