MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd yn y Celfyddydau Perfformio

Coleg Sir Gar

Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn

Darlithydd yn y Celfyddydau Perfformio
Application Deadline: 7 October 2025

Department: Performing Arts

Employment Type: Rhan Amser

Location: Campws Aberystwyth

Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae Maes Cwricwlwm y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Ceredigion (Campws Aberystwyth) yn rhan o Gyfadran y Celfyddydau Creadigol a Choginiol, Gwyddor Anifeiliaid, Modurol a Thechnoleg ac mae'n dod o dan Gyfarwyddiaeth y Gorllewin.

Fel rhan o adran y єDiwydiannau Creadigol', mae'r Celfyddydau Perfformio yn rhedeg rhaglenni bywiog ar gyfer eu dysgwyr, gan roi dealltwriaeth glir iddynt o'r sector, a'u galluogi i symud ymlaen i fyd gwaith a/neu addysg uwch sydd hefyd yn cynnwys coleg dawns neu ddrama galwedigaethol. Maent yn cynnig cyrsiau ar Lefel 3 ac mae ganddynt gysylltiadau cryf ag arbenigwyr y diwydiant, sy'n ymweld fel siaradwyr gwadd ac yn cynnal sesiynau gweithdy.

Mae pob dysgwyr yn dilyn llwybrau Sgiliau Llythrennedd neu Rifedd ochr yn ochr â'u prif gymhwyster ynghyd â rhaglen diwtorial fugeiliol gref.

Bydd gan ddeilydd y swydd Sgiliau Drama a Chanu cryf a bydd yn cyfrannu at gyflwyno rhaglen Lefel 3 Prifysgol y Celfyddydau Llundain mewn Celfyddydau Perfformio.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd ag addysgu ac asesu unedau Celfyddydau Perfformio/Drama/Canu ar Lefel 3
  • Arwain a chyfarwyddo ystod briodol o gynyrchiadau
  • Cyflwyno a hyrwyddo Datblygiad Sgiliau a gweithio i gynhyrchu ymgeiswyr llwyddiannus i wneud ceisiadau i Addysg Uwch ac Ysgolion/colegau Galwedigaethol
  • Gweithio'n weithredol i ddatblygu recriwtio trwy greu prosiectau ac ymgysylltu ag ysgolion lleol tra'n hyrwyddo cyfleoedd marchnata mewnol ac allanol
  • Mynd ati'n weithredol i geisio cyfleoedd cydweithredu creadigol rhwng adrannau'r diwydiannau creadigol a darparwyr allanol
  • Mynd ati'n weithredol i greu a hyrwyddo rhaglen amrywiol o weithgareddau sy'n cynnwys dosbarthiadau meistr/gweithdai ac ymweliadau er mwyn gwella profiad y dysgwyr
  • Cysylltu gyda chydweithwyr y diwydiannau creadigol, rheolwyr a chyfarwyddwyr i sicrhau profiad effeithiol i'r dysgwr a deilliant llwyddiannus.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg/Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus, priodol
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4 Hanfodol
  • Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

    Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dymunol:
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
  • Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
  • Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 28.68% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein