MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangewydd Junior,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athrawes - Ysgol Iau Llangewydd (Cyflenwi Mamolaeth Dros Dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athrawes - Ysgol Iau Llangewydd (Cyflenwi Mamolaeth Dros Dro)Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf gyda dyddiad dechrau disgwyliedig ym mis Chwefror 2026.
Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 352 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng tair ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 ddosbarth ADY.
Y Rôl
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi athro/athrawes, sy'n arloesol, yn greadigol ac yn ymarferydd ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth sy'n ymrwymedig i gynorthwyo llesiant, dysgu plant ac sydd â dyheadau a disgwyliadau uchel ar gyfer y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Ymarferydd rhagorol yn yr ystafell ddosbarth gyda dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru.
Gallu darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel.
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus.
Gallu gwahaniaethu profiadau dysgu i ddarparu ar gyfer anghenion pob dysgwr, gan roi cymorth a her.
Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Cysylltu a gweithio gyda rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach.
Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 15 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Hydref 2025
Ymweliad Ysgol i ymgeiswyr ar y rhestr fer: 24 Hydref 2025 am 9.45am
Arsylwi Gwers: Wythnos yn Dechrau 3 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 7 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person