MANYLION
- Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
- Testun: Athro
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: 01 September, 2022
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2022 12:00 y.p
This job application date has now expired.
Athro/athrawes i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig - Ysgol Gynradd Llantrisant
Rhondda Cynon Taf
Gwasanaeth Cynnal Dysgu Rhondda Cynon Taf
Athro/athrawes i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig mewn Dosbarth Cynnal Dysgu Arsylwi ac Asesu
Ysgol Gynradd Llantrisant
Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA 1
Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan athrawon profiadol, cymwys a brwdfrydig ar gyfer swydd athro/athrawes AAA mewn Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Llantrisant.
Mae'r swydd am 2 ddiwrnod yr wythnos.
Bydd y swydd yn dechrau o fis Medi 2022 neu cyn gynted ag sy'n bosibl wedi hynny.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda phlant ag anawsterau dysgu cymhleth.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Karen Pearson o'r Gwasanaeth Cynnal Dysgu yn Nhŷ Trevithick (01443) 744357.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 17/06/2022.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.