MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,318 - £29,935
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £28,318 - £29,935
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd : Swyddog Lles
Lleoliad: Ffordd y Bers
Math o gontract: Llawn Amser / Tymor Penodol (30/6/2025)
Cyflog: £28,318 - £29,935
A r hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer swyddog lles, i fod yn gyfrifol fel y pwynt cyswllt cyntaf fel rhan o'r Tîm Diogelu ar gyfer atgyfeiriadau, ymyriadau a phryderon diogelu, gan gynnwys cysylltu ag asiantaethau allanol priodol. Bydd y swyddog lles hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell cymorth, cyngor ac arbenigedd ar yr holl faterion sy'n ymwneud â lles.
Prif Dasgau:
- Ymdrin ag ymholiadau dysgwyr o ddydd i ddydd a rhoi gwybodaeth briodol mewn ymateb iddynt, gan gynnwys ymholiadau wyneb yn wyneb, ar y ffôn, sgwrsio ar-lein ac e-bost.
- Sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael cymorth gyda materion iechyd a lles.
- Darparu cymorth a chyflenwi yn lle staff eraill ar unrhyw un o safleoedd y coleg.
- Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar y cyd â'r Tîm Diogelu, ar gyfer yr holl atgyfeiriadau, ymyriadau a phryderon diogelu.
- Cysylltu ag asiantaethau allanol priodol a gwneud atgyfeiriadau a sicrhau eu bod yn ymdrin â holl bryderon diogelu yn brydlon ac yn briodol.
- Sicrhau eu bod yn cynnal yr holl gofnodion ac yn diweddaru gweithredoedd.
- Gweithredu fel ffynhonnell cymorth, cyngor ac arbenigedd i ddysgwyr a staff ar yr holl faterion sy'n ymwneud â llesiant.
- Mynd i gyfarfodydd Strategol Diogelu Plant amlasiantaethol, cyfarfodydd Plant mewn Angen yn ôl y gofyn.
- Cynnal Asesiadau Risg Dysgwyr ar gyfer dysgwyr unigol sy'n datgelu bod ganddynt Euogfarn Droseddol neu Rybudd gan yr Heddlu.
- Mynd i gyfarfodydd allanol ar ran y coleg sy'n ymwneud â dysgwyr sy'n cael cymorth gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid/Gwasanaeth Prawf.
- Cynnal gwybodaeth berthnasol ddiweddar am faterion Diogelu allweddol gan gynnwys Radicaleiddio ac iechyd meddwl.
Gofynion Hanfodol
- Safon dda o addysg (TGAU Gradd C ac uwch mewn llythrennedd a rhifedd)
- Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad
- Lefel 2 Cymhwyster Diogelu
- Lefel 3 Cymhwyster
Mae'r Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig