MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: ISR from L05 £55,900 to L09 £61,705
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Dirprwy Bennaeth/Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Gymunedol Neyland
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: ISR from L05 £55,900 to L09 £61,705
Yn ofynnol ar gyfer mis Ionawr 2025 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, Dirprwy Bennaeth/Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.ISR: L5 - 9
Oedran y disgyblion ar y gofrestr: 3 i 11 oed
Disgyblion ar y gofrestr:280
Mae'r corff llywodraethu yn chwilio am ddirprwy bennaeth brwdfrydig, ysbrydoledig a chadarn. Bydd gan yr ymgeisydd y gallu i arwain ac ysgogi ein staff a disgyblion ymroddedig i gam nesaf ein datblygiad a gwelliant parhaus. Bydd ganddo arddull arwain gref a gofalgar, gyda'r gallu i ysbrydoli pawb i wneud eu gorau glas. Mae gan y rôl arweinyddiaeth hon ymrwymiad addysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r pennaeth i ddatblygu tîm ymroddedig o staff a disgyblion gwych ymhellach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol ac yn goruchwylio'r Ganolfan Adnoddau Dysgu.
Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y canlynol:
- Cefndir amlwg o arferion addysgu a dysgu rhagorol ar draws yr ysgol
- Sgiliau arwain a rheoli rhagorol ynghyd â phrofiad arwain mewn ysgol gynradd
- Profiad o fod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a dealltwriaeth ragorol o brosesau a gweithdrefnau Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Profiad o arwain neu weithio o fewn Canolfan Adnoddau Dysgu
- Dealltwriaeth glir o faterion cyfredol cenedlaethol a lleol allweddol, gan gynnwys diddordeb brwd yn natblygiadau cwricwlwm cyfoethog sy'n seiliedig ar wybodaeth
- Y weledigaeth, yr egni a'r ymrwymiad i ddatblygu'r ysgol a sicrhau y cyflawnir y safonau cyrhaeddiad uchaf i bob disgybl ar draws ystod lawn gweithgareddau'r ysgol
- Y gallu, y gonestrwydd a'r uniondeb i adeiladu ac arwain timau a gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â staff, llywodraethwyr, rhieni ac asiantaethau eraill
- Dealltwriaeth dda o'r datblygiadau diweddaraf mewn effeithiolrwydd, cynhwysiant a llesiant mewn ysgolion
- Ymrwymiad i hyrwyddo a pharhau i ddatblygu gweithgareddau a phrofiadau allgyrsiol
Nododd ein harolygiad llwyddiannus gan Estyn (Mawrth 2023) lawer o gryfderau;
Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn fan lle mae disgyblion, staff a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi. Cryfder nodedig yn yr ysgol yw'r ethos gofalgar cryf a'r ymddiriedaeth a'r parch rhwng disgyblion a staff. Mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu diwylliant cadarnhaol o waith tîm ymhlith y staff a'r gymuned leol. Mae'r ysgol yn darparu ystod gyfoethog, eang a chytbwys o brofiadau dysgu a darpariaeth ychwanegol.
Yn ein hysgol, rydym yn siarad am 'fynd yr ail filltir' ac yn dangos hyn yn weithredol i'n plant, ein teuluoedd a'n cymuned. Mae'n allweddol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o hyn ac yn arddangos sgiliau i ddod yn rhan weithredol o'n hethos cadarnhaol a gofalgar wrth ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i'n disgyblion.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â'r Pennaeth ar HewittC30@Hwbcymru.net neu ffoniwch yr ysgol ar 01646 600659.
Edrychwch hefyd ar wefan ein hysgol:
https://neylandcommunity-school.co.uk/home
a'n tudalen Facebook i ddysgu mwy am ein hysgol effeithiol.
Y dyddiad cau: 3 Tachwedd 2025
Llunio'r rhestr fer: 8fed Hydref 2025
Cynhelir cyfweliadau 13eg a 14eg Hydref 2025.
Sylwch y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod ar ddiwedd diwrnod cyntaf y cyfweld a fyddant yn cael eu gwahodd i'r ail ddiwrnod cyfweld.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.