MANYLION
  • Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Cwnsela Therapiwtig a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Darlithydd Cwnsela Therapiwtig a delir fesul awr

Noder, contract a delir fesul awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont fel Darlithydd Cwnsela Therapiwtig. Bydd y rôl hon yn eich galluogi i gefnogi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol cwnsela trwy addysgu, mentora ac arweiniad academaidd o ansawdd uchel. Byddwch yn cyfrannu at ddarparu ein rhaglenni cwnsela, gan gynnwys Diplomâu Lefel 4 a Lefel 5, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau ymarferol, y ddealltwriaeth ddamcaniaethol, a'r hunanymwybyddiaeth sydd eu hangen i ymarfer yn broffesiynol. Byddwch hefyd yn aelod cofrestredig/achrededig o gorff proffesiynol fel Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), Cyngor Seicotherapi'r Deyrnas Unedig (UKCP), y Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol ac ati a bydd gennych brofiad cyfredol o ymarfer.

Byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno sesiynau diddorol, yn asesu cynnydd dysgwyr, ac yn cefnogi datblygiad unigol mewn cyd-destunau academaidd a phroffesiynol. Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig mewn cwnsela therapiwtig (lefel 6 o leiaf) a byddwch yn aelod o gorff proffesiynol fel BACP, UKCP, y Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol ac ati a bydd gennych brofiad cyfredol o ymarfer. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu dystysgrif TAR (neu barodrwydd i weithio tuag at un) yn hanfodol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn angerddol am gymell pob dysgwr i fod yn barod ar gyfer gyrfaoedd cwnsela llwyddiannus mewn ymarfer proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael

ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwysedd i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwch, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.